#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
1. Cyflwyniad
Mae'r papur hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy'n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n cynnwys adrannau ar y gwaith yn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; ac yn yr Alban ac Iwerddon. Mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 7 ac 20 Medi, ond ceir cyfeiriad at ddigwyddiadau diweddarach lle'r oedd gwybodaeth ar gael adeg y drafftio terfynol.
2. Datblygiadau yng Nghymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif Bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau cysylltiedig â Brexit y Pwyllgorau. Mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad Gadael yr Undeb Ewropeaidd: y goblygiadau i Gymru. Dechreuodd sesiynau cyntaf yr ymchwiliad hwn ar 12 Medi. Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod bob wythnos – fel arfer ar brynhawn dydd Llun.
Mae ymgynghoriad i randdeiliaid yn cael ei baratoi, a dylai gael ei lansio yn yr wythnosau nesaf i gael barn ar y canlynol: goblygiadau Brexit i Gymru, blaenoriaethau a phryderon allweddol, cyfraniad at y broses negodi, a threfniadau yn y dyfodol ar ôl gadael yr UE.
Ymddangosodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a ymddangosodd gerbron y Pwyllgor ar 12 Medi – mae trawsgrifiad o'r sesiwn ar gael yma. Rhoddodd y diweddaraf ynghylch ymateb a gweithgareddau Llywodraeth Cymru ers refferendwm yr UE, gan ailddatgan y chwe blaenoriaeth y nododd ar 24 Mehefin, yn ogystal â'r amryw drafodaethau yr oedd wedi'u cynnal gyda Phrif Weinidog y DU a'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gadael yr UE, y gweinyddiaethau datganoledig eraill, ac yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf (gydag ail Gyngor Prydeinig-Gwyddelig i'w gynnal yng Nghaerdydd ddiwedd mis Hydref).
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai'r is-bwyllgor newydd ar adael yr UE y mae wedi'i sefydlu yn ei Gabinet yn cyfarfod yn fisol, ac y byddai'r cyfarfod cyntaf ar 12 Medi. Dywedodd hefyd y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC, yn cadeirio Grŵp Cynghori Allanol newydd a fydd yn cyfarfod cyn bo hir, ac y cyhoeddir manylion ei aelodaeth yn fuan. Cafwyd trafodaeth ynghylch pa mor gynrychioliadol y byddai hyn ac a fyddai aelodau o bob plaid yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.
Pwysleisiodd ei awydd i weld safbwynt negodi'r DU yn cael ei gytuno gan y pedair gwlad mewn ffordd sy'n cynnwys y gweinyddiaethau datganoledig, a dywedodd mai un o linellau coch Llywodraeth Cymru fyddai mynediad i'r Farchnad Sengl heb dariffau. Dywedodd nad yw aelodaeth yn opsiwn oherwydd y gwrthodwyd hyn yn refferendwm yr UE, ond ei fod yn hyblyg o ran pa fodel amgen y dylid mynd ar ei drywydd ar yr amod bod hyn yn cynnig gwarant o ran mynediad i gynifer o sectorau â phosibl i'r farchnad Ewropeaidd. Pwysleisiodd hefyd yr angen am eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch ei safbwynt ar Brexit.
Trafodwyd diwygio fformiwla Barnett (un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru) hefyd, ac ailadroddodd y Prif Weinidog ei alwad am fecanwaith newydd i gymryd lle Barnett, gyda mecanwaith adolygu rheolaidd yn rhan o hyn. O ran cyllid yr UE, galwodd am warant ar gyfer prosiectau/ymrwymiadau cyllid hyd at 2023, fel bod modd cwblhau prosiectau sy'n cael cymorth o dan y rhaglenni presennol. O ran y PAC a'r Cronfeydd Strwythurol, gwrthododd yn llwyr unrhyw ymgais i gymhwyso fformiwla Barnett fel sail ar gyfer ailddyrannu cyllid presennol yn y meysydd hyn mewn setliad ar ôl gadael yr UE.
Ar 19 Medi, cynhaliodd y Pwyllgor ei seminar arbenigol thematic cyntaf mewn cyfres i lywio ei waith wrth graffu ar rôl Llywodraeth Cymru o ran Brexit. Roedd y seminar gyntaf yn edrych ar gyfraith ryngwladol a masnach ac yn cynnwys tri phanel o academyddion. Roedd rhan gyntaf y sesiwn yn ystyried cyd-destun ehangach cyfraith ryngwladol a sut y mae hyn effeithio ar y DU (a Chymru) ar hyn o bryd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a sut y bydd gadael yr UE yn effeithio ar hyn, gan gynnwys unrhyw wahaniaethau o ran effaith yn dibynnu ar sut y bydd yn gadael a'r trefniadau ôl-UE sy'n cael eu rhoi ar waith. Roedd yr ail ran yn canolbwyntio ar oblygiadau Brexit i fasnach, gan gynnwys edrych ar y sector bwyd-amaeth yng Nghymru sy'n sector allforio net ar hyn o bryd, yn ogystal ag edrych ar effaith ehangach y gwahanol opsiynau masnach ryngwladol.
Bydd aelodau'r Pwyllgor yn ymweld â Brwsel ar 26 Medi am gyfres o gyfarfodydd i lywio eu gwaith ar Brexit. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd gydag ASEau (gan gynnwys Derek Vaughan), Cenadaethau Canada a'r Swistir i'r UE, Cynrychiolydd Parhaol Iwerddon i'r UE, swyddogion y Comisiwn a chynrychiolwyr o'r DU, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru.
Ar 3 Hydref, bydd y Pwyllgor yn cynnal ei ail seminar arbenigol thematig: Cyllid, ymchwil a buddsoddi, gyda ffocws arbennig ar ymchwil a symudedd mewn addysg/hyfforddiant.
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Lansiodd y Pwyllgor hwn ymchwiliad i edrych ar ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru, gan gynnwys ymgynghoriad i randdeiliaid.
Ar 14 Medi, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer y portffolio hwn, Lesley Griffiths AC. Roedd y rhan fwyaf o'r sesiwn hon yn canolbwyntio ar ei hasesiad o oblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr UE, yn arbennig yn edrych ar amaethyddiaeth, datblygu gwledig a'r amgylchedd.
Nododd Ysgrifennydd y Cabinet fwriad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl bwerau yn ei phortffolio y mae Brexit yn effeithio arnynt yn cael eu hailwladoli. Ar sail hyn, byddai'r Llywodraeth yn barod i edrych ar fanteision cydweithredu gyda gwledydd eraill y DU o ran fframwaith cyffredinol i'r DU, er enghraifft ym maes polisi amaethyddiaeth. Nododd ei bod wedi gwahodd Gweinidogion sy'n cynrychioli portffolios tebyg i'w phortffolio ei hun o bob rhan o'r DU i gyfarfod yng Nghaerdydd yr hydref hwn i drafod Brexit. Tynnodd sylw hefyd at nifer o bryderon ynghylch y 'gwarant ariannu' a nodwyd yn llythyr y Canghellor ym mis Awst, yn enwedig yr effaith y gallai hyn ei chael ar gynlluniau amaeth-amgylcheddol a datblygu gwledig yng Nghymru. Hefyd, pwysleisiodd gymhlethdod asesu effaith y broses Brexit – gan nodi fod rhywfaint o waith ymchwil cychwynnol gan ei swyddogion yn dangos bod dros 5,000 o ddarnau o ddeddfwriaeth bresennol yr UE yn effeithio'n uniongyrchol ar y meysydd polisi yn ei phortffolio.
Roedd datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 15 Medi, Trafodaethau ar gyfeiriad Polisi yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn y dyfodol, hefyd yn ymdrin â nifer o'r pwyntiau y cododd Ysgrifennydd y Cabinet ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith wrth ymateb i bleidlais refferendwm yr UE.
Ymwelodd y Pwyllgor â gorllewin Cymru ar 22-23 Medi fel rhan o'r gwaith o gasglu tystiolaeth i lywio'r ymchwiliad hwn, gan gynnwys cyfarfodydd gyda ffermwyr a rhanddeiliaid eraill, a bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiwn gydag academyddion i ymchwilio i bolisïau yn y dyfodol ar sail egwyddorion cyntaf ar 28 Medi.
Arall
Mae sawl un o Bwyllgorau'r Cynulliad yn trafod ymchwiliadau posibl i faterion Gadael yr UE ac, wrth i'r rhain ddod yn fwy cadarn, byddwn yn cynnwys manylion yn y papur hwn ar y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â Gadael yr UE.
Dadleuon yn y Cyfarfod Llawn
Ar 13 Medi, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad ar adael yr UE a chymerodd gwestiynau gan Arweinydd yr Wrthblaid, y gwrthbleidiau eraill ac Aelodau'r Cynulliad (amser y sesiwn: 15:24-16.19). Roedd Brexit hefyd yn y cwestiwn brys i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates AC (amser y sesiwn: 14.20-14:36), gweler Cofnod y Trafodion am gofnod llawn o'r sesiwn.
Ar 14 Medi, cytunodd y Cynulliad ar ddau gynnig diwygiedig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu: (a) cyd-dynnu'n rhagweithiol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill cyn dechrau erthygl 50 a'r trafodaethau fydd yn dilyn hynny.'
Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru yn ystod y trafodaethau a fydd yn digwydd.
Ar 21 Medi, bu'r Cynulliad yn trafod cynnig am bwysigrwydd aelodaeth lawn o'r farchnad sengl Ewropeaidd i economi Cymru.
Llywodraeth Cymru
Gweler adran 4.1 am ddiweddariadau perthnasol ar weithgareddau Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad.
Ar 15 Medi, cyhoeddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ddatganiad ysgrifenedig – Refferendwm yr UE – Trafodaethau ar gyfeiriad Polisi yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn y dyfodol
Ar 22 Medi, daeth Dirprwy Gynrychiolydd Parhaol y DU i'r UE, Shan Morgan, ar ymweliad â Chymru am gyfres o gyfarfodydd gydag uwch-swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
Ar 26 Medi, aeth Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths AC, ar ymweliad â Brwsel ar gyfer cyfres o gyfarfodydd yn ymwneud â Brexit.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi sefydlu gweithgor addysg uwch ar Brexit, a disgwylir iddo gyfarfod am y tro cyntaf ar 28 Medi.
Rhanddeiliaid o Gymru
Cyfarfu undebau ffermwyr y DU, gan gynnwys NFU Cymru, ag uwch dîm rheoli Asda i drafod effeithiau Brexit ar y diwydiant bwyd a ffermio. Roeddent yn cynrychioli safbwyntiau cychwynnol eu haelodau ynghylch polisi masnach, llafur ac amaeth, gan nodi nifer o faterion a allai effeithio ar gadwyni cyflenwi y DU. (19 Medi)
Ar 12 Medi, yn Rhuthun, cynhaliodd NFU Cymru sioe deithiol Brexit a oedd yn cynnwys trafodaeth ar fynediad at lafur, y sefyllfa o ran rheoleiddio ar ôl gadael yr UE a sut byddai'r berthynas fasnachu â'r UE yn dylanwadu ar hyn, a threfniadau ariannu yn y dyfodol. Cynhaliwyd sioeau teithiol hefyd yng Nghlunderwen ar 19 Medi ac Aberhonddu ar 21 Medi.
Cyfarfu swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru ffermwyr â'r Gweinidog Gwladol ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd, David Davis AS, yn Llundain i drafod y cyfleoedd a gynigir o adael yr UE, gan ystyried hefyd llawer o'r materion pellgyrhaeddol sy'n bwysig i ffermwyr yng Nghymru. (9 Medi)
Ar 14 Medi, atgoffodd Undeb Amaethwyr Cymru Aelodau'r Cynulliad y bydd y lefelau cyfredol o TB buchol yng Nghymru yn dinistrio ein cytundebau masnach gydag Ewrop os na fydd unrhyw newid mewn polisi.
Mae'r ffigurau cyfredol sy'n deillio o arolwg ar-lein Undeb Amaethwyr Cymru yn awgrymu bod 43% o ymatebwyr wedi cyffroi ynghylch canlyniad y refferendwm, a bod 51% yn pryderu ynghylch yr hyn sydd i ddod pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Gallai'r Cotswolds a Phenrhyn Gwyr yng Nghymru fod mewn perygl os nad yw'r Llywodraeth yn llunio polisi o'r radd flaenaf ar gyfer bwyd, ffermio a'r amgylchedd ar ôl gadael yr UE, meddai'r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad ar 17 Medi. Galwodd yr un sefydliad hefyd am ymrwymiad cynnar gan yr Ysgrifennydd Cartref i sefydlu cynlluniau sector ar ôl gadael yr UE a fydd yn galluogi ffermydd a busnesau gwledig eraill i barhau i gyflogi gweithwyr o'r UE a thu hwnt, yn ogystal â gweithwyr o'r DU.
3. Datblygiadau ar lefel yr UE
Y Cyngor Ewropeaidd/Cyngor y Gweinidogion
Ar 16 Medi, cynhaliwyd Cyngor Ewropeaidd anffurfiol o'r UE27 (heb gyfranogiad y DU) yn Bratislava. Diben y cyfarfod oedd ystyriaeth wleidyddol ynghylch datblygu UE ymhellach sydd â 27 o aelod-wladwriaethau. Cytunodd arweinwyr yr UE ar Ddatganiad a Chynllun Bratislava, gan nodi nifer o amcanion ar gyfer y misoedd nesaf:
§ adfer rheolaeth lawn ar ffiniau allanol
§ sicrhau diogelwch mewnol ac ymladd terfysgaeth
§ cryfhau cydweithrediad yr UE ar amddiffyn a diogelwch allanol
§ hybu'r farchnad sengl a
§ chynnig gwell cyfleoedd i bobl ifanc Ewrop
Gweler hefyd y datganiad gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk yn dilyn y Cyngor anffurfiol.
Nid oedd Brexit yn rhan ffurfiol o'r agenda, ac roedd arweinwyr yr UE yn awyddus i bwysleisio'r neges na fydd unrhyw drafodaethau ynghylch Brexit nes cychwyn Erthygl 50 – caiff hyn ei adlewyrchu hefyd yn y diffyg paratoi yng ngwasanaethau y Cyngor ar gyfer y trafodaethau.
Mewn datganiad i'r wasg cyn cyfarfod y G20 yn Tsieina, dywedodd Jean-Claude Juncker, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, nad Brexit fyddai'r prif bwnc na'r prif fater yn y cyfarfod yn Bratislava (ar 16 Medi).
Cyn yr uwchgynhadledd anffurfiol, dywedodd Llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk fod y Prif Weinidog May wedi dweud wrtho y bydd y DU yn lansio'r broses i adael yr UE erbyn mis Ionawr neu fis Chwefror 2017. Bu llawer o ddyfalu yn y cyfryngau ynghylch pryd fydd y Prif Weinidog yn cychwyn Erthygl 50, a hyd yma mae'r Prif Weinidog ond wedi dweud na fydd yn ystyried cychwyn Erthygl 50 cyn diwedd 2016. Mae 2017 yn flwyddyn o etholiadau allweddol ar draws Ewrop (yr Iseldiroedd cyn diwedd mis Mawrth; Ffrainc ym mis Ebrill; a'r Almaen ym mis Medi/Hydref). Ar 15 Medi, gohebodd y BBC fod cyn-Lywydd y Cyngor Ewropeaidd Herman Van Rompuy wedi dweud bod trafodaethau sylweddol ar adael yr UE yn annhebygol o ddigwydd nes i lywodraeth newydd yr Almaen gael ei ffurfio ar ôl yr etholiad ym mis Medi flwyddyn nesaf. Didier Seeuws, sef pennaeth Tasglu DU y Cyngor ar Brexit, oedd Pennaeth Cabinet Van Rompuy pan oedd yn Llywydd y Cyngor Ewropeaidd.
Yn dilyn yr uwchgynhadledd, awgrymodd Prif Weinidog Slofacia y gallai'r Bloc Visegrad(Gwlad Pwyl, Hwngari, y Weriniaeth Tsiec a Slofacia) roi feto ar unrhyw gytundeb Brexit sy'n cyfyngu ar hawliau pobl i weithio yn y DU.
Dioddefodd plaid Undeb Gristnogol Ddemocrataidd Angela Merkel anffawd yn yr etholiadau yn sgil ei pherfformiad gwaethaf erioed yn etholiadau talaith Berlin. Daw hyn ychydig wythnosau ar ôl colli yn Mecklenburg-Vorpommern. Eto, gwelwyd cynnydd yn y gefnogaeth i'r blaid asgell dde eithafol, gwrth-fewnfudo AfD, a gafodd 14% o'r bleidlais ac a enillodd seddi yn Senedd Talaith Berlin, gan roi cynrychiolaeth iddi mewn 10 o'r 16 o seneddau talaith yn yr Almaen. Cyfaddefodd Merkel mai polisi mewnfudo y llywodraeth a oedd un o'r ffactorau wrth wraidd y canlyniad a disgwylir i ymfudo fod yn un o brif themâu yr etholiadau cenedlaethol yn yr Almaen yr hydref nesaf.
Y Comisiwn Ewropeaidd
Ar 15 Medi, gwnaeth Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker ei anerchiad blynyddol ar Gyflwr yr Undeb i Senedd Ewrop, gan amlinellu ei weledigaeth ynghylch blaenoriaethau'r flwyddyn i ddod, a fydd yn sail i raglen waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2017 (a ddisgwylir ddiwedd mis Hydref). Cynigiodd Juncker agenda gadarnhaol o gamau pendant Ewropeaidd yn canolbwyntio ar gadw ac uno'r undeb. Mae'r araith yn canolbwyntio ar sicrhau Ewrop well mewn pum maes:
§ Ewrop sy'n diogelu;
§ Ewrop sy'n cadw'r ffordd Ewropeaidd o fyw (gan sôn yn benodol am werthoedd heddwch, rhyddid i symud, ac ymladd gwahaniaethu/hiliaeth);
§ Ewrop sy'n grymuso ein dinasyddion;
§ Ewrop sy'n amddiffyn gartref a thramor; ac
§ Ewrop sy'n cymryd cyfrifoldeb.